08 Oct 2020
Mae'r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru'n cael eu hannog i "Gefnogi'r Bil" ac ymrwymo i hawl gyfreithiol i gartref digonol yn eu maniffestos ar gyfer Etholiad Senedd Cymru 2021.
A heddiw (8 Hydref) dangoswyd map o'r llwybr i'r ddeddfwriaeth honno iddynt ar ffurf bil drafft a gyhoeddwyd gan CIH Cymru, Tai Pawb a Shelter Cymru.
Mae'r bil yn disgrifio sut y gellir gwireddu'r fath ddeddfwriaeth a sut y gall arwain at Gymru lle bydd gan bawb hawl i rywle diogel, hygyrch a fforddiadwy i'w alw'n gartref.
Fe gafodd ei ddrafftio gan Dr Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, academydd hawliau dynol a gydweithiodd â'r hyn a oedd ar y pryd yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Meddai Matt Dicks, Cyfarwyddwr CIH Cymru:
Ynghyd â'n partneriaid yn yr ymgyrch hon, rydym yn credu bod deddfwriaeth yn fan cychwyn i "wireddiad cynyddol" yr hawl i gartref digonol. Rydym yn credu y bydd yn gwthio ffocws ac adnodd i mewn i'r sector - y bydd yn gyrru symudiad systemaidd mewn dulliau polisi, gan symud tai i fyny'r rhestr blaenoriaethau polisi ac yn ei dro darparu'r lefel wirioneddol o fuddsoddiad y mae arnom ei hangen i ailosod ein system tai.
“Os credwn yn wir ei fod yn hawl a bod cartref diogel a fforddiadwy yn ganolog i ymdrin â llawer o drafferthion cymdeithas - nawr yn fwy nac erioed yng nghanol argyfwng iechyd byd-eang - yw'r amser i wneud hyn yn hawl.”
Meddai Alicja Zalesinska, Cyfarwyddwr Tai Pawb:
"Nid yw lle diogel i bawb erioed wedi bod yn bwysicach nag yn yr oes sydd ohoni. Nid yw medru 'Aros Gartref' erioed wedi bod yn gysylltiedig mor agos â goroesiad dynol. Un wers y gallwn i gyd ei chymryd i ffwrdd o'r argyfwng hwn yw'r anghenraid diamheuol o gael mynediad i'r hawl gymdeithasol fwyaf sylfaenol - yr hawl i gartref da, i bawb ac yn enwedig i'r rhai y mae'r mynediad hwn yn anghyfartal ar eu cyfer.
“Mae'n rhaid peidio â gwastraffu gwaith anhygoel ein cydweithwyr yn y llywodraeth, y sectorau tai a digartrefedd a'r trydydd sector wrth sicrhau bod gan bobl fynediad i gartref yn ystod y pandemig hwn. Mae angen i ni adeiladu ar y momentwm trasiedïol o angenrheidiol ond effeithiol hwn, y ddealltwriaeth newydd a'r pŵer sydd gennym ar y cyd i weld tai am beth y maent - hawl sylfaenol."
Meddai John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru:
Yng Nghymru rydym ni'n gwneud y peth iawn trwy wneud digartrefedd yn anghyffredin ac yn anfynych ac yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu taflu allan i ddigartrefedd o gartrefi cymdeithasol. Bydd hawl i gartref digonol, sydd wedi'i hymwreiddio yng nghyfraith Cymru, yn fframio meddwl ac yn symbylu'r polisïau, arferion a chyfraith i gyflawni'r nod hwnnw yn gyson dros amser ac ar draws gwasanaethau a llywodraethau olynol."
Mae'r digwyddiad lansio, sy'n cael ei gynnal yn ddigidol oherwydd y sefyllfa Covid, yn cael ei noddi gan John Griffiths AS, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol Senedd Cymru, sydd eisoes wedi cefnogi'r egwyddor o hawl gyfreithiol i gartref digonol trwy argymell y dylid cynnwys elfen benodol o ymgorffori ar wyneb y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sy'n cael ei graffu gan Senedd Cymru ar hyn o bryd.