27 Oct 2022
Heddiw mae CIH Cymru yn cyhoeddi ei drydydd Nodi’r Cysylltiadau rhan adroddiad ar brofiadau pobl sy'n gweithio mewn adrannau tai Awdurdodau Lleol ar draws Cymru. Mae'r ymchwil yn datgelu:
Dywedodd ymatebwyr i'n harolwg o weithwyr tai proffesiynol awdurdodau lleol wrthym am eu pryderon mewn perthynas ag
Pam y gwnaethom ni'r arolwg hwn?
Ein diben yw cyfrannu at gyd-drafodaethau, polisi a'r agenda ddeddfwriaethol o gwmpas tai yng Nghymru, ac rydym yn cael ein cyfeirio gan brofiadau pobl o bob cwr o Gymru.
Bu i ni gynnal tri arolwg, y cyntaf ym mis Mawrth 2020, cyn effaith y coronafeirws ac ar ôl y cyfnodau clo, yr ail ym mis Ionawr 2021 a'r un terfynol ym mis Mehefin 2022. Maent yn darparu mewnwelediad unigryw i brofiad staff mewn adrannau tai yn ystod y pandemig COVID-19.
Prosiect polisi 5 mlynedd yw Tyfu Tai Cymru (TTC) sy'n gweithio trwy'r Sefydliad Tai Siartredig (Cymru) gyda'r nod o lenwi bylchau mewn tystiolaeth a defnyddio lleisiau gweithwyr tai proffesiynol i gefnogi'r gwaith o greu polisi yng Nghymru. Gan fyfyrio ar un o brif nodau TTC - 'Sicrhau bod tai bob amser yn flaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol', nod yr ymchwil hon yw rhoi llwyfan i leisiau'r proffesiwn tai mewn llywodraeth leol, gan amlygu'r cyfleoedd a heriau y maent yn eu hwynebu yn yr hinsawdd bresennol.
Meddai Catherine May, rheolwr prosiect Tyfu Tai Cymru CIH Cymru:
“Pan wnaethom ymgymryd â'r cyntaf o'r gyfres hon o arolygon, nid oedd gennym unrhyw syniad bod cymaint o waith adrannau tai ar fin newid gyda mwy o ffocws ar gadw pobl yn iach nag erioed o'r blaen. Mae'r ymatebion bob tro wedi dweud wrthym pa mor falch y mae'r staff o'r gwaith y maent yn ei wneud i roi to dros bennau pobl ac i gefnogi ei gilydd. Maent hefyd yn dweud wrthym bod angen mynd ymhellach a darparu atebion mwy parhaol ym mhob cwr o Gymru.
Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog trafodaeth o effaith y pwysau y mae staff yn eu teimlo wrth i gymunedau brofi effeithiau'r argyfwng costau byw gydag adrannau tai'n parhau fel rheng flaen y gefnogaeth i gynifer o bobl."