16 Dec 2019
Heddiw cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2020-2021, gan gyhoeddi buddsoddiad mawr i gefnogi sefydliadau wrth gyflawni ei tharged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. O safbwynt tai, bydd y gyllideb yn cyflwyno £48m ychwanegol mewn Grant Tai Cymdeithasol ynghyd â £50m i'r rhaglen benthyciadau tai a £25 miliwn i'r Rhaglen Tai Arloesol i gefnogi sefydliadau gyda datgarboneiddio, a chyllid pellach ar gyfer rhyddhau tir, adfywio canol trefi ac adeiladu modiwlaidd.
Mae'r gyllideb yn cynnwys £430m o fuddsoddi ychwanegol yn y GIG a chynnydd o 4.3 y cant yn y setliad cyllidol ar gyfer awdurdodau lleol. Un o brif nodweddion y gyllideb hon yw cynnwys cyllid ar draws portffolios y llywodraeth i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r dadansoddiad llawn o gyllideb 2020-2021 ar gael yma.
Matt Dicks | Cyfarwyddwr CIH Cymru
Mae'n iawn bod tai'n un o'r wyth maes â blaenoriaeth sydd wedi siapio ystyriaethau'r gyllideb hon. Mae mater tai'n torri ar draws sawl maes ac yn cysylltu'n agos â blaenoriaethau cyllideb eraill fel lleihau tlodi a datgarboneiddio ond hefyd y blynyddoedd cynnar a chyflogaeth. Ni ellir tanbrisio ei bwysigrwydd. Mae'r buddsoddiad £48m ychwanegol yn y Grant Tai Cymdeithasol er mwyn cyflawni'r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn hwb hanfodol wrth i ni ddod yn nes at gyflawni'r targed hwnnw. Calonogol yw gweld y bydd awdurdodau lleol yn derbyn £15m mewn cyllid cyfalaf ychwanegol a allai ategu gwasanaethau atal digartrefedd a chefnogi cyflwyno tai cymdeithasol y mae angen taer amdanynt - mae'n hanfodol i'r rhain gael eu hystyried fel meysydd â blaenoriaeth i fuddsoddi ynddynt yn lleol.
Wrth sôn am gost ddatgarboneiddio dywedi Matt Dicks fod y sector yn barod i weithredu ond bod angen buddsoddi yn y sector.
Matt Dicks | Cyfarwyddwr CIH Cymru
Mae'r sector tai yng Nghymru'n bartner parod a bodlon wrth fynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar ffurf cronfa benodedig o fewn y gyllideb hon yn pwysleisio pwysigrwydd cymryd camau ar y cyd mewn partneriaeth â'r sector. Dylai cartrefi sy'n garbon niwtral ac yn defnyddio ynni'n effeithlon gyda deunyddiau o ffynonellau lleol fod wrth wraidd ein dull o gyflwyno tai fforddiadwy a chymdeithasol yn ddi-oed - gan greu lleoedd y bydd y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yn ffynnu'n wirioneddol ynddynt. Daw'r her fwyaf gan lawer o'n cartrefi presennol, gan fod Cymru'n meddu ar rai o'r cartrefi hynaf yn Ewrop. Ac er i ni groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru o ran gwariant cyfalaf ychwanegol ar ehangu'r rhaglen tai arloesol; awgryma'r adroddiad Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell y gallai ôl-osod tai cymdeithasol a chartrefi sydd mewn tlodi tanwydd bob blwyddyn yng Nghymru'n unig gostio tua £0.5bn - £1bn y flwyddyn am y 10 mlynedd nesaf. Mae'r cyllid ychwanegol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol i ymgymryd â gweithgareddau cychwynnol datgarboneiddio cartrefi presennol yn bwysig yn erbyn y cefndir hwn, ac er ein bod yn deall y dirwedd gyllidebol gyfyng y mae Llywodraeth Cymru'n gweithredu ynddi, mae'n eglur bod yn rhaid i fuddsoddi mewn datgarboneiddio tai fynd yn rhinwedd ganolog ystyriaethau cyllidebol yn y dyfodol. Yn gryno, mae angen i'r buddsoddiad hwn fod yn gam cychwynnol tuag at gynyddu graddfa'r daith yn sylweddol tuag at gartrefi carbon niwtral ar draws Cymru.