15 Mar 2021

CIH yn gosod y safon ar gyfer proffesiynoldeb ar draws y sector tai

Mae'r Sefydliad Tai Siartredig wedi cyflwyno set o safonau proffesiynol i amlinellu'r wybodaeth, sgiliau ac ymddygiad sy'n sail i'r gwaith rhagorol y mae gweithwyr tai proffesiynol yn ei wneud bob dydd.

Gyda thros 100 mlynedd o brofiad mewn dysgu a gwybodaeth, mae CIH wedi cydweithio â channoedd o aelodau, tenantiaid a thrigolion, sefydliadau tai a chyrff proffesiynol eraill ar draws y DU i ddatblygu set o safonau y gall pawb sy'n gweithio ym maes tai, beth bynnag eu rôl neu arbenigedd, eu defnyddio.

Mae'r safonau'n nodi saith nodwedd broffesiynol sy'n annog unigolion i fyfyrio ar eu hanghenion datblygu proffesiynol ac adnabod y meysydd lle gallant wneud newidiadau cadarnhaol. Trwy ddefnyddio'r safonau newydd, bydd unigolion yn dangos eu hymrwymiad i'r sector, yn datblygu ymddygiadau newydd yn ogystal â rhai presennol ac yn eirioli'r rôl y mae gweithwyr tai proffesiynol yn ei chwarae wrth wneud gwahaniaeth i'r trigolion a'r cymunedau y maent yn cydweithio â nhw bob dydd.

Gavin Smart  |  prif weithredwr CIH

Mae'n bleser gennym gyflwyno'r cam cyntaf hwn o'n gwaith proffesiynoldeb, safonau proffesiynol CIH. Rydym eisiau i bob gweithiwr tai proffesiynol gael ei gydnabod am ei wybodaeth, ymddygiadau, cydnerthedd ac ymrwymiad i'r sector. Trwy gymhwyso'r nodweddion a safonau, credaf y bydd y proffesiwn tai'n ennyn lefel uwch o ymddiriedaeth a chredadwyedd. O'r safle hwn o ymddiriedaeth gallwn gyflawni ein ddiben orau - sef creu dyfodol lle mae gan bawb rywle i'w alw'n gartref. Dros y misoedd i ddod, bydd CIH yn cyflwyno offer a deunyddiau newydd sy'n gweithio ochr yn ochr â'u safonau proffesiynol i gefnogi unigolion a sefydliadau ymhellach ar eu taith broffesiynoldeb. Bydd hyn yn cynnwys nodwedd hunanasesu newydd i sgorio yn erbyn pob un o'r safonau, cynnwys hyfforddi a datblygu newydd a chyffrous, a deunyddiau datblygol i roi hwb i wybodaeth a sgiliau gweithwyr tai proffesiynol.