10 Nov 2021
Mae ymchwil newydd gan Tyfu Tai Cymru (rhan o CIH Cymru) wedi taflu goleuni ar bwysau yn y gadwyn gyflenwi sy'n effeithio ar sut mae darparwyr tai cymdeithasol a fforddiadwy yn cyflawni eu rhwymedigaethau i adeiladu cartrefi newydd a gwella, cynnal a chadw a sicrhau diogelwch cartrefi presennol.
Gan alw ar arbenigedd, profiad a mewnwelediad gweithwyr proffesiynol yn y sector mae canfyddiadau'r arolwg yn adlewyrchu natur heriol rhai o'r problemau cadwyn gyflenwi a wynebir. Nododd yr arolwg, y cyfrannodd 31 o sefydliadau ato, fod:
Gan ymateb i'r pwysau hyn, nododd yr adroddiad fod sefydliadau'n newid eu dulliau gweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gan gynnwys gohirio gwaith mawr, ymestyn amserau aros ac adolygu amodau contract gyda chyflenwyr.
“Mae fy rôl bersonol yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd, rwyf wedi ymwneud â hyn ers dros 30 mlynedd ac nid wyf erioed wedi gweld unrhyw beth sy'n peri cymaint o bryder â'r sefyllfa bresennol mewn cadwyn gyflenwi sydd eisoes yn gyfyngedig ac wedi'i hestyn.” – Ymatebwr i'r arolwg
O ran Llywodraeth Cymru, mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys ymagwedd fwy cynlluniedig at ddeall heriau yn y gadwyn gyflenwi sy'n wynebu'r sector, adolygu hyblygrwydd cyllid grant i ddarparu ar gyfer costau uwch a chefnogi busnesau bach a chanolig gyda'u llif arian i sicrhau bod cwmnïau sy'n gwasanaethu'r sector yn parhau'n gynaliadwy yn ystod adegau o ansicrwydd economaidd.
O ran y sector, mae'r adroddiad yn awgrymu adolygu sgiliau staff i nodi lle y gallai gwell sgiliau mewn rhai rolau ostwng dibyniaeth ar gadwynau cyflenwi, mynd ati i gaffael nwyddau a gwasanaethau ar y cyd â sefydliadau eraill a chysylltu â thenantiaid yn gynnar i gyfathrebu'r heriau a wynebir a defnyddio eu harbenigedd i gyfeirio ymagwedd pob sefydliad.
Catherine May | Rheolwr Tyfu Tai Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru
Er i ni groesawu'n gryf y weledigaeth glir a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a gwella effeithlonrwydd cartrefi presennol yn sylweddol, allwn ni ddim anwybyddu'r tensiwn rhwng y weledigaeth honno a realiti'r hinsawdd weithredu sy'n wynebu llawer o ddarparwyr tai cymdeithasol a fforddiadwy. Ni fydd y pwysau hyn yn mynd i ffwrdd dros nos, ac wrth i'r sector barhau i ymaddasu i'r heriau hyn mae'n rhaid hefyd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r mater a chreu cynllun wedi’i ffocysu fel y byddwn bob yn dipyn mewn sefyllfa gryfach i gyflawni ein huchelgais ar y cyd dros dai yng Nghymru.
Helen White | Prif Weithredwr, Cymdeithas Tai Taf
Heb os, gallai heriau'r gadwyn gyflenwi sy'n achosi prisiau uwch ac oedi fod yn rhwystr difrifol i'n gallu i ddarparu'r cartrefi yn y dyfodol y mae arnom eu hangen ar frys. Mae digwyddiadau byd-eang wedi creu storm berffaith, mae angen i ni feddwl yn greadigol a gweithio ar y cyd gyda'n partneriaid mewn llywodraeth er mwyn i ni isafu'r effaith ar denantiaid nawr ac yn y dyfodol. Mae canfyddiadau'r arolwg hwn yn cefnogi'r holl dystiolaeth anecdotaidd, bod pwysau yn y gadwyn gyflenwi'n cael effaith sylweddol ar ffurf oedi, prinder llafur a deunyddiau, costau uwch a heriau cynllunio.