02 Dec 2020

Tri chwarter yn cefnogi'r hawl gyfreithiol i gartref yng Nghymru

Mae mwy na thri chwarter (77%) o bobl yng Nghymru'n cefnogi hawl gyfreithiol i gartref, yn ôl arolwg newydd gan CIH Cymru.

Gofynnodd yr arolwg o 1,011 o oedolion 18 oed ac yn hŷn, a gomisiynwyd gan CIH Cymru mewn partneriaeth â'r Athro Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd ac a gyflawnwyd gan Deltapoll, y canlynol:

“P'un a oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad sengl y "Dylai fod gan bawb yr hawl gyfreithiol i gartref digonol"

Cytunodd tua 77 y cant â'r datganiad, gyda 40 y cant yn cytuno'n gryf.

Matt Dicks  |  cyfarwyddwr, CIH Cymru

Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn lleisio eu barn yn glir wrth ddweud y dylai fod gennym i gyd yr hawl i rywle digonol, fforddiadwy a diogel i'w alw'n gartref. Wrth gwrs mae pobl yn bryderus am y pandemig Covid-19, ond gan i'r argyfwng daflu goleuni mor ddisglair ar ganlyniadau methu â medru cael mynediad i gartref diogel, nawr yw'r amser i weithredu a defnyddio'r momentwm a ddarparwyd yn y cadarnhad hwn gan y cyhoedd i wneud newid go iawn a llawn effaith a fydd yn parhau. Heddiw felly, rydym yn ailadrodd ein galwad maniffesto ein hunain, cyn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf, i'r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru ymrwymo i ddeddfu dros hawl i gartref yn nhymor nesaf y Senedd.

Nododd data'r arolwg y canlynol hefyd:

  • Nodir cartrefi fel blaenoriaeth bolisi allweddol i'r llywodraeth yng Nghymru gan bron 20% o ymatebwyr - o flaen pryderon traddodiadol fel troseddu, addysg ac amddiffyn.
  • Teimlodd 83% mai cyfrifoldeb i'r llywodraeth yw darparu cartrefi at safon ddigonol i bawb
  • Teimlodd bron hanner - 49% - y dylai fod mwy o gydbwysedd mewn blaenoriaethau gwariant cyhoeddus gyda chartrefi efallai yn cael cyfran fwy cyfartal o gronfa gyllid y Senedd
  • Gan ganolbwyntio ar ganfyddiadau am gartrefi, byddai bron hanner, 49 y cant, eisiau gweld mwy o gartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu yn eu hardal, gan gynrychioli symudiad cadarnhaol o'r arolwg barn blaenorol a gynhaliwyd yn 2018 pan mai traean yn unig oedd â'r farn honno.
  • Teimlodd dau draean hefyd fod angen mwy o gartrefi fforddiadwy yn eu hardal leol.
  • Mae'n drist i'r data amlygu parhad barn negyddol am gartrefi cymdeithasol, gan gael eu gweld yn gysylltiedig â chyfraddau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol uwch ac fel ffurf lai dyheadol o gartref - dyna pam mae CIH Cymru wedi galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ymrwymo i strategaeth i ddod â'r stigma o gwmpas cartrefi cymdeithasol i ben 

Mae CIH Cymru, gyda Tai Pawb a Shelter Cymru wedi bod yn ymgyrchu am dros 18 mis ar gyfer creu hawl gyfreithlon am dai digonol. I gyflawni'r nod mae'r tri sefydliad wedi creu Bil drafft.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eu bod nhw am gynnwys ymrwymiad i'r hawl gyfreithlon i gartref ddigonol o fewn eu maniffesto.

Adroddiad llawn 

Alicja Zalesinska  |  cyfarwyddwr, Tai Pawb

Na allwn ni anwybyddu'r gefnogaeth gryf o'r cyhoedd ar gyfer hawl i gartref digonol. Mae pobl yng Nghymru wedi siarad yn glir - mae hyn yn dangos bod y cyhoedd yn poeni am ddigartrefedd, safon ein tai ac effaith hynny ar ein bywydau. Ers i ni lansio ein hadroddiad dros flwyddyn yn ôl, rydym ni wedi galw am newid trawsnewidiol trwy greu'r hawl ddynol i dai yng Nghymru - mae pobl yng Nghymru yn barod wedi cefnogi'r newid a nawr yw’r amser i wleidyddion ddilyn nhw.

Ruth Power  |  cyfarwyddwr, Shelter Cymru

Rydym ni yn gweithio pob dydd gyda phobl sy'n delio efo'r straen mae digartrefedd yn achosi. Y nhw yw'r rhai sy'n teimlo'r effaith mae diffyg tai diogel, fforddiadwy, ac o safon uchel yn achosi ar draws Cymru. Credwn ni, fel mwyafrif o bobl yng Nghymru, bod tai digonol yn angenrheidiol ar gyfer pawb. Wrth i ni barhau tuag at greu hawl gyfreithlon i dai digonol bydd hyn yn siapio blaenoriaethau llywodraeth y dyfodol, a sicrhau buddsoddiad i gynyddu'r tai er mwyn ateb anghenion pobl. Bydd hyn yn cael effaith positif ar gyfer iechyd, cyflogaeth, addysg a llesiant pobl a chymunedau ar draws Cymru. Rydym ni i gyd yn rhannu diddordeb wrth wneud hyn digwydd.

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) yw'r llais annibynnol dros dai ac mae'n gartref i safonau proffesiynol. Mae nod syml gennym - darparu'r cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i weithwyr tai proffesiynol y mae eu hangen arnynt i fod yn ddisglair. Mae CIH yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad nid er elw. Mae hyn yn golygu bod yr arian a wnawn yn cael ei ddychwelyd i'r sefydliad ac yn cyllido ein gweithgareddau wrth gefnogi'r sector tai. Mae gennym aelodaeth amrywiol o bobl sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mewn 20 o wledydd ar bum cyfandir ledled y byd. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn: www.cih.org
  2. Comisiynwyd arolygon barn gan y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) i'w cynnal yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Dyluniwyd cynnwys yr arolygon hynny trwy ymgynghori'n helaeth â swyddogion CIH yn y cenhedloedd unigol a gyda'r asiantaeth arolygon a gomisiynwyd, Deltapoll. Cyflawnwyd yr arolygon dros y we rhwng 24 a 29 Medi 2020. Roedd y sampl yng Nghymru o 1,011 o arolygon deunaw oed a throsodd; roedd y sampl wedi'i bwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth oedolion Cymru.
  3. Am sylwadau ychwanegol, i drefnu cyfweliadau neu gael astudiaethau achos ffoniwch 07827 805131 neu gyrrwch e-bost at matthew.dicks@cih.org