01 May 2019

Adolygu'r cyflenwad tai fforddiadwy - map o'r llwybr i sicrwydd ariannu a fforddadwyedd?

Heddiw mae paenl annibynnol adolydu'r cyflenwad tai fforddiadwy wedi rhyddhau ei argymhellion yn sgil deg mis o waith ennyn diddordeb budd-ddeiliaid ar draws y sector. Maer's adolygiad wedi gweithio ar draws nifer o ffydiau gwaith ar cyd gydag arbenigwyr wrth ystyried y cyflenwad o dir, tai blaengar a mesur yr angen am dai. 

Mae prif argymhellion yr adolygiad yn ymdrin â'r canlynol:

  • Cyfuno a symleiddio safonau ar gyfer pob cartref newydd fforddiadwy;
  • Caiff cartrefi fforddiadwy newydd eu hadeiladu at safon EPC 'A' o 2021 ymlaen ac erbyn 2025 bydd pob cartref newydd yn bodloni'r safon hon beth bynnag ei ddeiliadaeth;
  • Rhoi polisi rhent pum mlynedd ar waith o 2020-21 ymlaen, gan ddarparu sefydlogrwydd i denantiaid a landlordiaid;
  • Adolygiad ariannol annibynnol o Drosglwyddiadau Gwirfoddol ar Raddfa Fawr Cymru wrth dderbyn Cyfrifon Gwaddoli a Refeniw Tai awdurdodau lleol sy'n derbyn y Lwfans Atgyweiriadau Mawr
  • Gofyniad i Drosglwyddiadau Gwirfoddol ar Raddfa Fawr Cymru ac awdurdodau lleol fuddsoddi mewn dad-garboneiddio cartrefi presennol yn gyfnewid am ymrwymiad parhaus i'r Lwfans Gwaddoli ac Atgyweiriadau Mawr;
  • Sefydlu corff hyd braich i weithredu fel hyb rheoli tir sector cyhoeddus a gwasanaethau proffesiynol, er mwyn cyflymu datblygiad tir cyhoeddus ar gyfer tai fforddiadwy;
  • Dull newydd i ddisodli'r Grant Tai Cymdeithasol, gyda model uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, tegwch, ansawdd, tryloywder a gwerth am arian.

Wrth ddarparu corff cynhwysfawr cychwynnol o dystiolaeth ysgrifenedig i gyfeirio gwaith y panel adolygu, amlinellodd CIH Cymru yr angen am:

  • Ystyried yr angen am greu un system tai gydlynol sy'n gweithio dros bawb
  • Ymchwilio i'r cyfleoedd i greu dull tai yng Nghymru sy'n seiliedig ar hawliau
  • Ymdrin â stigma tuag at denantiaid sy'n byw mewn tai cymdeithasol
  • Darparu polisi rhent cynaliadwy sy'n cydbwyso fforddadwyedd
  • Creu sicrwydd hir dymor o gwmpas lefelau grantiau i alluogi darparwyr tai cymdeithasol i gynllunio'n effeithiol

Cred CIH Cymru fod yr argymhellion yn darparu map llwybr a all gyflwyno:

  • Sicrwydd cyllido tymor hwy cynyddol i sicrhau y gall y sector gyflwyno'r uchelgeisiau a ddisgrifir yn yr adolygiad
  • Polisi rhent cytbwys sy'n cynnal fforddadwyedd ac ar yr un pryd gwella capasiti i ddarparu tai cymdeithasol newydd
  • Cynnal safonau uchel ansawdd mewn cartrefi a datblygu ein gallu i gyflwyno uchelgeisiau di-garbon Llywodraeth Cymru ymhellach

Matt Dicks  |  cyfarwyddwr, CIH Cymru

Mae gan heddiw y potensial i wella'r ffordd y bydd gweithwyr a mudiadau tai proffesiynol yn gweithio am flynyddoedd i ddod - er gwell. Mae'r adolygiad wedi cyflwyno argymhellion synhwyrol i annog partneriaethau i ddatblygu cartrefi ar draws ardaloedd ehangach dros gyfnod hirach, gan gynnwys mesurau i alluogi awdurdodau lleol i adeiladu mwy yn uniongyrchol a gosod allan dulliau gwell o ddefnyddio tir sector cyhoeddus. Mewn rhai ffyrdd mae hyn yn cynrychioli cam blaengar ymlaen. Er gwaetha'r gwaith rhagorol a gyflawnir gan weithwyr tai proffesiynol ar draws Cymru - bydd argymhellion eofn fel y rhain yn galluogi'r proffesiwn i gyflwyno canlyniadau sydd hyd yn oed yn well dros a gyda chymunedau ar draws Cymru. Byddem yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fabwysiadu'r argymhellion yn llawn ond yn ystod y broses honno mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwarchod yn erbyn canlyniadau anfwriadol, yn enwedig o gwmpas y mecanwaith dyrannu grantiau arfaethedig. Hefyd, mae'n rhaid i ni gydbwyso ein brwdfrydedd gyda dealltwriaeth o'r hyn sydd angen ei wneud o hyd - y tu hwnt i'r argymhellion i gyflwyno un system tai gydlynol a all ddiwallu anghenion tai pawb yng Nghymru. Mae'n rhaid i hyn, yn ein barn ni, gynnwys dull tai yng Nghymru sy'n seiliedig ar hawliau; ffyrdd o brif-ffrydio gwasanaethau tai sy'n lleddfu pwysau ar y GIG; a chefnogi landlordiaid a thenantiaid y sector preifat i ffynnu. Mae lansio argymhellion yr adolygiad yn amserol wrth i ni symud ymlaen heddiw at ddiwrnod cyntaf ein cynhadledd flynyddol TAI 2019, a fydd yn rhoi cyfle cyntaf i weithwyr proffesiynol ar draws y sector gymathu'r argymhellion ac ystyried eu rôl wrth gyflwyno'r rhain yn ymarferol.