22 Sept 2020
Heddiw mae CIH Cymru'n lansio ei maniffesto Senedd Cymru 'Cefnogi Tai 2021' sy'n amlinellu'r syniadau polisi y gofynnir i bob plaid wleidyddol yng Nghymru eu cynnwys yn eu hymrwymiad i'r cyhoedd yng Nghymru wrth ymgyrchu tuag at a'r tu hwnt i etholiad Senedd Cymru fis Ebrill nesaf.
Mae'r maniffesto wedi cael ei greu mewn ymgynghoriad ag ystod eang o weithwyr tai proffesiynol ac mae'n darparu syniadau go iawn i fwyafu'r effaith y gall gweithwyr tai proffesiynol ei chael yn eu rolau o weithio gyda chymunedau ar draws Cymru a'u cefnogi.
Nodwedd bennaf y maniffesto yw ymgorffori'r hawl i gartref digonol yng nghyfraith Cymru, fel y gall pawb gael mynediad i rywle diogel a fforddiadwy i'w alw'n gartref. Gofynnir i bleidiau gwleidyddol ymrwymo i:
• Baratoi'r proffesiwn tai at y dyfodol trwy greu strategaeth gweithlu
• Sefydlu Partneriaeth Werdd gyda'r sector
• Cefnogi gwelliannau mewn rhentu preifat ar gyfer landlordiaid a thenantiaid
• Mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â thai cymdeithasol a hybu effaith gadarnhaol cymunedau amrywiol
Meddai Matt Dicks, cyfarwyddwr cenedlaethol CIH Cymru:
“Mae ein maniffesto'n deillio o sgwrs barhaus gyda gweithwyr tai proffesiynol sy'n gweithio ar bob lefel yn y sector. Rydym yn credu y byddai'r hyn yr ydym yn gofyn amdano'n gwneud gwahaniaeth go iawn i sut mae pobl yn cael mynediad i gartrefi yng Nghymru a'u profiadau wedi hynny. Mae'r hyn rydym yn galw amdano'n targedu gweithredu mewn nifer o feysydd gan gynnwys sut rydym yn meithrin y sgiliau y mae eu hangen ar weithwyr tai proffesiynol nawr ac yn y dyfodol, sut rydym yn symud yn gyflym tuag at sector sy'n fwy gwyrdd ac yn llesol i'r amgylchedd a harneisio cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i weld cynnydd pwrpasol tuag at fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn ystod tymor nesaf Senedd Cymru a'r tu hwnt."