27 Sep 2022
Byddai cyflwyno hawl i dai digonol yn arwain at arbedion sylweddol i bwrs y wlad.
Dyna’r prif ganfyddiad a wnaethpwyd gan ymgyrch Cefnogi'r Bil wrth iddo gyhoeddi ail gam yr ymchwil i effeithiau cymdeithasol ac economaidd ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru.
Wedi’i gomisiynu gan bartneriaid Cefnogi’r Bil (Tai Pawb, Shelter Cymru a CIH Cymru), mae’r dadansoddiad annibynnol – a gynhaliwyd gan Alma Economics – yn nodi buddion i bwrs y wlad sy’n werth £11.5bn yn erbyn y costau cyffredinol o £5bn dros gyfnod o 30 mlynedd. Rhagwelir y gallai'r buddion hynny ddechrau mynd yn drech na’r costau ar ôl dim ond chwe blynedd.
Am bob £1 sy’n cael ei gwario ar yr hawl i dai digonol, mae’r papur yn tynnu sylw at y ffaith y ceir £2.30 o fuddion. Byddai hyn yn:
O ran iechyd a lles, er enghraifft, mae’r adroddiad yn nodi y byddai gwella ansawdd ac addasrwydd cartrefi yn arwain at lai o dderbyniadau i’r ysbyty; yn yr un modd, gyda chynnydd graddol yn nifer y cartrefi addas sydd ar gael, byddai llai o ddibyniaeth ar wasanaethau cyngor a gwasanaethau cymorth digartrefedd eraill, gan arwain at arbedion pellach i bwrs y wlad.
Mae’r ymgyrch ‘Cefnogi'r Bil’ yn galw am gyflwyno’r hawl i dai digonol yn raddol, gan ddechrau gyda’r ‘Ddeddf Hawl i Dai’ i yrru’r buddsoddiad hirdymor sydd ei angen, flwyddyn ar ôl blwyddyn, er mwyn i bawb yng Nghymru allu byw mewn cartref da y gallant ei fforddio.
Yn eu hadroddiad, mae Alma Economics yn dangos sut byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cefnogi blaenoriaethau pwysig i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru, fel datgarboneiddio’r stoc dai ledled Cymru erbyn 2050 a darparu cartrefi sy’n addas ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio. Hefyd, byddai hawl i dai digonol yn ysgogi camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau drwy leihau gorlenwi a chefnogi pobl anabl yn well i gael mynediad at gartrefi sy’n diwallu eu hanghenion.
Mae’r ymchwil yn amserol a bydd yn cefnogi’r gwaith tuag at Bapur Gwyn gan y llywodraeth ar gynigion ar gyfer hawl i dai digonol; mae’r Papur Gwyn yn ymrwymiad i’w groesawu yng nghytundeb cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mewn ymateb i'w gyhoeddiad, dywedodd Alicja Zalesinska (Prif Weithredwr Tai Pawb), Ruth Power (Prif Swyddog Gweithredol – Shelter Cymru) a Matt Dicks (Cyfarwyddwr – CIH Cymru):
“Rydyn ni'n croesawu canfyddiadau'r ymchwil heddiw gan mai dyma'r dystiolaeth fwyaf clir o'r llu o fuddion fyddai’n dod yn sgil cyflwyno hawl i dai digonol yng Nghymru.
“Mae’r adroddiad yn nodi synergedd rhwng yr hawl i dai digonol ac ymrwymiadau polisi tai presennol, fel datgarboneiddio, rhoi diwedd ar ddigartrefedd a chymorth i boblogaeth sy’n heneiddio. Mae pwysau sylweddol yn wynebu llawer o deuluoedd sy’n ddigartref neu mewn cartrefi o ansawdd gwael neu gartrefi anfforddiadwy wrth inni nesáu at y gaeaf; credwn yn gryf y bydd hawl i dai digonol, dros amser, yn helpu i greu Cymru lle gall pobl ddibynnu ar gael cartref da y gallant ei fforddio, ac sy’n diwallu eu hanghenion sylfaenol.
“Mae’r ffaith y gallai’r buddion fod yn drech na'r costau o fewn chwe blynedd i’r hawl i dai digonol gael ei gyflwyno yn dangos bod prinder cartrefi da yn cael effaith sylweddol ar draws sawl maes o wariant cyhoeddus. Y cwestiwn nawr yw ‘Pam na fyddem yn cyflwyno hawl i dai digonol yng Nghymru?’.
“Gall Cymru arwain y ffordd yn ei dull o ymdrin â thai fel hawl dynol – ac felly edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i helpu i siapio’r cynigion sydd ar y gweill yn y Papur Gwyn ar yr hawl i dai digonol.
“Dros amser, gall pawb yng Nghymru gael cartref da. Mae’r ymchwil annibynnol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos nad yw hyn yn gwneud synnwyr moesol yn unig, ond ei fod yn gwneud synnwyr i pwrs y wlad hefyd”.