17 Dec 2020

Cartrefi yn y Lleoedd Iawn i ddatrys yr argyfwng tai

Mae Dyfodol Tai Cymru'n lansio ei faniffesto i Senedd Cymru ‘Amser i gyflwyno'r cartrefi iawn yn y lleoedd iawn’, sy'n disgrifio nifer o syniadau polisi i'r holl bleidiau gwleidyddol ymrwymo iddynt yn ystod etholiad Senedd Cymru sydd ar y gweill a'r tu hwnt.

Mae Dyfodol Tai Cymru'n banel polisi ymgynghorol y mai ei gyfansoddiad yw aelodau newydd/ifainc sydd â buddiant yn nyfodol y proffesiwn tai yng Nghymru, wedi'i sefydlu a'i gefnogi gan CIH Cymru.

Fel grŵp, mae gennym amrywiaeth eang o brofiadau ym maes tai, gyda rolau o wasanaethau rheng flaen, i ddatblygiadau newydd, i strategaeth tai, polisi tai a llywodraethu. Gallwn i gyd weld yr effaith y mae'r argyfwng tai yn ei chael ar ein cymunedau, ac rydym i gyd yn credu bod angen newid sylweddol.

Fel prif bwynt y maniffesto, rydym yn gofyn bod yr holl bleidiau'n gwneud gwir ymrwymiad i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol ar draws Cymru a darparu'r cartrefi iawn yn y lleoedd iawn. Ymgorffori'r hawl i gartref digonol yng nghyfraith Cymru yw'r man cychwyn ar gyfer y newid y mae angen mawr amdano yng Nghymru. Gofynnir hefyd i bleidiau gwleidyddol:

  • Ymrwymo'r lefel gywir o gyllid
  • Darparu'r cartrefi iawn yn y lleoedd iawn
  • Ymrwymo i'r buddsoddiad iawn i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd
  • Galluogi'r gwasanaethau cefnogi iawn i ddod â chysgu allan i ben

Dyfodol Tai Cymru

Mae pawb yn gwybod bod gennym argyfwng tai yng Nghymru. Rydym wedi gweld hyn yn ein rolau tai gwahanol ar draws y wlad. Nid yw'r niferoedd o gartrefi newydd sy'n wirioneddol fforddiadwy yn bodloni'r galw; nid yw dewis o ran tai ar gael mwyach, ac mae'r dyddiau pan fu diogelwch o ran cartrefi'n i'w gweld yn atgof pell. Gallwch weld bod yr argyfwng hwn yn araf yn mynd yn 'rhy anodd' i'w drwsio ac allwn ni ddim adael i hynny ddigwydd. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol ymrwymo i gyflwyno'r cartrefi iawn yn y lleoedd iawn er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Maniffesto DTC     Ffeithlun DTC   

 

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae grŵp Dyfodol Tai Cymru'n banel polisi ymgynghorol y mai ei gyfansoddiad yw aelodau newydd/ifainc sydd â buddiant yn nyfodol y proffesiwn tai yng Nghymru, wedi'i sefydlu a'i gefnogi gan CIH Cymru. Diben y grŵp yw darparu persbectif gweithwyr tai proffesiynol ifainc, a'r rhai sy'n newydd i'r sector, i gefnogi a ffocysu datblygiadau polisi'r dyfodol ym maes tai. Fel grŵp mae gennym amrywiaeth eang o brofiad ym maes tai, gyda rolau sy'n cynnwys gwasanaethau rheng flaen, datblygiadau newydd, strategaeth tai, polisi tai a llywodraethu.
  2. Y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) yw'r llais annibynnol dros dai ac mae'n gartref i safonau proffesiynol. Mae nod syml gennym - darparu'r cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i weithwyr tai proffesiynol y mae eu hangen arnynt i fod yn ddisglair. Mae CIH yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad nid er elw. Mae hyn yn golygu bod yr arian a wnawn yn cael ei ddychwelyd i'r sefydliad ac yn cyllido ein gweithgareddau wrth gefnogi'r sector tai. Mae gennym aelodaeth amrywiol o bobl sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mewn 20 o wledydd ar bum cyfandir ledled y byd. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn: www.cih.org
  3. Am sylwadau ychwanegol, i drefnu cyfweliad neu i gael astudiaethau achos cysylltwch ag Elizabeth@tpas.cymru neu Gareth.Leech@cartreficonwy.org