30 Nov 2023
Mae enillwyr Gwobrau Tai Cymru'r Sefydliad Tai Siartredig (CIH) wedi cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig a noddwyd gan Aico, a gynhaliwyd yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd ar 30 Tachwedd 2023.
Mae Gwobrau Tai Cymru'n cydnabod creadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau ac unigolion ym maes tai o bob rhan o'r sector. Derbyniodd gwobrau eleni dros 60 o enwebiadau ar draws 15 categori, gan gynnwys tîm tai’r flwyddyn, rhagoriaeth arloesedd tai, a chynaladwyedd ym maes tai.
Excellence in customer service - sponsored by United Welsh
Monmouthshire Homesearch - Customer Excellence in a Digital Age - Monmouthshire Housing Association
Excellence in health & wellbeing
RHA Wales (Hapus & BeActive RCT) - RHA Wales
Excellence in housing innovation
Pen Y Dre Apartments / Compass Community Hub - Merthyr Tydfil CBC in partnership with Merthyr Valley Homes
Working in partnership - sponsored by Lovell
STAR housing model - United Welsh and Caerphilly Council in parternship with Platform
Sustainability in housing - sponsored by Blake Morgan
Thornhill Decarb Project - Hafod in parternship with SERS Ltd
Excellence in championing equality and diversity
Equality Matters - Newydd Housing Association
Supporting communities - sponsored by Resource
NU Life - Cadwyn Housing Association
Delivering high quality homes
Developing High Quality Homes at The Mill - Lovell Tirion Homes in partnership with Principality Building Society and Welsh Government
Housing team of the year - sponsored by BRC
Caerphilly Empty Homes Team - Caerphilly County Borough Council
Community focussed contractor
Pentwyn Drive - Willis Construction Limited
Positive placemaking
RHA \ Little Shed - RHA Wales
Supporting independent living
Supported Living - Caredig
Excellence in professionalism
Hafod's Principles and Behaviours Framework - Hafod
Young achiever in housing - sponsored by Wales & West Housing
Carys Wiggins - Taff Housing
Mae'r holl gynigion ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tai Cymru hefyd wedi'u cynnwys yn ein Compendiwm Arfer Da 2023, dogfen ddysgu graidd sy’n llawn ysbrydoliaeth, syniadau, ac arloesedd i helpu pawb ar draws y sector i greu dyfodol lle mae gan bawb le i’w alw’n gartref.
Gan roi sylwadau ar enillwyr y gwobrau, meddai cyfarwyddwr CIH Cymru, Matt Dicks:
“Gwobrau Tai Cymru a'r Compendiwm Arfer Da sy'n cyd-fynd â nhw yw un o'r gweithgareddau pwysicaf i CIH Cymru a'r sector tai ehangach yng Nghymru bob blwyddyn gan eu bod yn cydgrynhoi enghreifftiau ac astudiaethau achos o sut yr ydych chi, y gweithwyr tai proffesiynol, yn gwneud gwahaniaeth - gwahaniaeth i'r tenantiaid a chymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru, ond hefyd i amcanion polisi cyhoeddus ehangach sy'n gwneud gwahaniaeth i'n bywydau ni i gyd.
“Mae'n anhygoel gweld cynifer o enghreifftiau cadarnhaol o flaengaredd gan y sector yng Nghymru. Hoffwn rannu fy llongyfarchiadau gwresog gyda'r enillwyr, yr enwebeion a phawb a gyflwynodd gais i'r gwobrau. Roedd gan bob un o'r ceisiadau safon rhyfeddol o uchel o arloesedd a chyflawniad y dylem i gyd fod yn falch ohonynt.”