27 Apr 2022
Mewn adroddiad mewnwelediad sector newydd, mae CIH Cymru ac Aico wedi ymgysylltu ag ystod eang o weithwyr proffesiynol i ddeall y darlun cyfoes o sgiliau sy'n gysylltiedig â chyflawni rhai o uchelgeisiau mwyaf y sector. O adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, hyd at wella ansawdd a diogelwch adeiladau sy'n bodoli eisoes.
Drwy gyfuniad o arolygu a grŵp ffocws sector, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod yr her sy'n gysylltiedig â sgiliau i gyflawni uchelgeisiau'r sector sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a'i leihau yn enfawr. Ystyriwyd bod pwysigrwydd ymgysylltu â thenantiaid i leddfu pryderon am dechnolegau newydd i wneud cartrefi mor effeithlon â phosibl a grymuso eu defnydd effeithiol yn flaenoriaeth bwysig. Teimlwyd y gellid defnyddio arbenigedd tenantiaid ymhellach i fireinio'r ffordd y mae sefydliadau'n mynd ati i wella eu cartrefi, tra bod angen manteisio ar y cyfle i gynnig hyfforddiant a llwybrau i fathau newydd o gyflogaeth i denantiaid a chymunedau lleol, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw parhaus.
Roedd heriau parhaol eraill hefyd yn gyffredin mewn trafodaethau gan gynnwys sut mae sefydliadau'n cael gafael ar gyllid cynaliadwy a sut y caiff cadwyni cyflenwi eu gwneud yn ddigon gwydn i ymdopi â'r galw tra'n caniatáu ar gyfer cyrchu arbenigedd a chydrannau yn lleol.
Mae'r adroddiad yn awgrymu nifer o gamau pendant a allai weld cynnydd pellach yn y maes hwn gan gynnwys cwmpasu creu academi sgiliau tai i Gymru, rhannu arbenigedd rhwng sefydliadau a dal gwybodaeth am effeithiolrwydd mesurau ôl-ffitio mewn un lle i gefnogi dysgu yn y sector.
Matt Dicks | cyfarwyddwr cenedlaethol, Sefydliad Siartredig Cymru
Mae'r dulliau a ddefnyddiwn i wella cartrefi yn aml yn faes technegol iawn o weithgarwch tai. Ond mae ein sgwrs â'r sector yn dangos pa mor bwysig yw hi i arbenigedd tenantiaid ei chwarae wrth lywio, llunio a chraffu ar y dull y mae sefydliadau'n ei fabwysiadu. Er ein bod yn gwybod y bydd y sgiliau sydd eu hangen i wireddu'r weledigaeth uchelgeisiol ar dai sydd gennym i gyd ar gyfer Cymru yn gofyn am hwb enfawr mewn sgiliau ac arbenigedd newydd ar draws y sector, ni allwn anwybyddu'r cyfle a ddaw yn sgil hyn. Ar gyfer cymunedau sy'n byw gydag effaith hirdymor pandemig COVD-19 ochr yn ochr â'r argyfwng costau byw, rhaid i ni wneud mwy i sicrhau mai'r cymunedau hynny yw'r rhai sy'n elwa fwyaf o'r hwb i gyflogaeth a gweithgarwch economaidd y mae'r ymdrech hon yn ei gynrychioli.
Tina Mistry | rheolwr perthynas, Aico
Hoffem ddiolch i CIH Cymru am eu cefnogaeth wrth nodi pwysigrwydd ymgysylltu â thrigolion i leddfu pryderon am dechnolegau newydd yn y cartrefi. Dim ond drwy gydweithio gwirioneddol y gellir creu academi sgiliau tai i Gymru gan fod angen inni sicrhau bod pob adran yn y sector tai nid yn unig yn cael ei haddysgu ond hefyd yn cael ei grymuso i allu gyrru'r agenda hon yn ei blaen. Bydd hyn hefyd yn gofyn am gymorth gan y sector addysg i ddatblygu cenedlaethau'r dyfodol, contractwyr i gael eu huwchsgilio, ac yn bwysicaf oll, i sicrhau bod trigolion o bob deiliadaeth yn rhan o'r daith.