18 Jun 2019
Mae tri o fudiadau tai mwyaf blaengar Cymru yn galw am gydnabod yr hawl i dai yng nghyfraith Cymru.
Lansiodd Tai Pawb, CIH Cymru a Shelter Cymru adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd yn trafod yr effeithiau cadarnhaol y byddai ymgorffori’r hawl a ddiogelir gan y Cenhedloedd Unedig i dai digonol yn ei gael yng Nghymru wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Daw’r alwad ddwy flynedd ar ôl trychineb Tŵr Grenfell, lle collodd 72 o bobl eu bywydau o ganlyniad uniongyrchol i dai annigonol.
Mewn digwyddiad dan nawdd John Griffiths AC, cadeirydd pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd, clywodd y mynychwyr gan y tri mudiad a chan awdur yr adroddiad, Dr Simon Hoffman (Prifysgol Abertawe). Mae’r adroddiad yn cyflwyno achos cryf dros gydnabod yr hawl i dai yng Nghymru, ac yn dangos sut y byddai o gymorth wrth fynd i’r afael â materion tai allweddol, fel digartrefedd a’r diffyg difrifol mewn tai fforddiadwy a hygyrch.
Alicja Zalesinska | cyfarwyddwr, Tai Pawb
Credwn fod rhaid i ymrwymiad cenedlaethol i’r egwyddor y dylai fod hawl ddynol gan bawb – wedi’i wreiddio yn y gyfraith – i gael mynediad at dai digonol a chynaliadwy fod yn greiddiol i unrhyw ddatrysiad i’r argyfwng tai yng Nghymru. Mae arnom angen gweledigaeth a fframwaith cyfreithiol a fyddai’n ein helpu i arwain at newid sylfaenol yn ein canfyddiad o dai – hynny yw, eu bod yn greiddiol i urddas bob person, ac mai deiliaid hawliau yw pobl mewn angen, nid derbynwyr elusen.
Mae’r adroddiad yn dangos sut byddai’r hawl i dai yn helpu i ddatrys problemau fel y diffyg tai hygyrch, ac yn ei gwneud yn ofynnol i ganolbwyntio ar y rhai sydd â’r angen mwyaf am dai.
Bu Jillian Wadley, tenant anabl yn byw yng Nghwmbrân, gynt yn byw mewn tŷ a oedd yn anhygyrch.
Jilian Wadley | tenant yng Nghwmbrân
Roeddwn i’n cael anhawster gwirioneddol yn y cyfnod hwnnw, gyda thasgau y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol. Er enghraifft, heb lifft grisiau, roeddwn i’n gorfod dringo’r grisiau gyda chymorth fy ngŵr yn fy nal, ond yn aml byddai fy nghefn yn mynd ac mi oeddwn i’n disgyn i lawr. Yn y pen draw, fe drefnodd ein landlord i ffitio lifft grisiau nes daethpwyd o hyd i gartref addas i ni. Cymerodd 3 blynedd i ni gael ein hailgartrefu i eiddo y gellid ei addasu ar gyfer ein teulu ac, er nad oedd o reidrwydd yn hygyrch, roedd modd ei addasu i fy anghenion. Mae’n ymddangos bron ei bod yn iawn i rywun fod yn anabl cyn belled nad oes gennych chi blant, oherwydd mae llawer o gartrefi sy’n hygyrch neu wedi’u haddasu yn rai gyda dim ond un neu ddwy ystafell wely. Mae angen i ni adeiladu llawer mwy o gartrefi hygyrch, ond fel mae pethau’n sefyll, nid oes unrhyw gynlluniau clir i wneud hynny. Mae angen mynd i’r afael â hyn gan fod cymaint o bobl anabl sy’n byw mewn eiddo nad yw’n addas i’w hanghenion.
Wrth fabwysiadu dull wedi’i seilio ar hawliau o ymdrin â thai, byddai Cymru yn dilyn nifer gynyddol o wledydd lle mae’r hawl i dai yn egwyddor gyfansoddiadol, yn cynnwys y Ffindir, lle mae digartrefedd wedi disgyn gan 35 y cant ers 2010. Mewn cyfnod tebyg, mae digartrefedd yng Nghymru wedi codi gan 63 y cant .
Matt Dicks | cyfarwyddwr, CIH Cymru
Dyma gyfle i ailfywiogi a rhoi ail bwrpas i’r ymrwymiad gwreiddiol i ddarparu’r hawl ddynol sylfaenol honno – rhywle diogel i’w alw’n gartref – trwy fabwysiadu dull wedi’i seilio ar hawliau o ymdrin â thai ac ymgorffori’r ‘Hawl i Dai Digonol’ yn gyfan gwbl yng nghyfraith Cymru. Gallwn edrych ar esiamplau rhyngwladol, yn cynnwys Canada, De America, yr Unol Daleithiau a’r Ffindir, lle mae’r hawl i dai wedi’i ddiogelu, mewn amrywiol ffyrdd, yn narpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â datblygiadau diweddar yn yr Alban, a’u defnyddio fel llwyfan ar gyfer gwthio’r agenda hawliau yn ei blaen yng Nghymru.
John Puzey | cyfarwyddwr, Shelter Cymru
Byddai hawl i gartref, wedi’i ddiogelu gan gyfraith Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl wasanaethau cyhoeddus roi’r sylw dyledus i hawliau dynol pobl a byddai’n arwain at newid cadarnhaol yn nifer o’r penderfyniadau hynny sy’n gyrru pobl i ddigartrefedd. Byddai hawl o’r fath hefyd yn cynyddu gallu dinasyddion i herio penderfyniadau gwael a arweiniodd at eu gwneud yn ddigartref yn y lle cyntaf.