10 Dec 2020

Llofnodwyr allweddol yn cefnogi’r hawl i dai

Cefnogaeth llofnodwyr allweddol yn hwb i’r ymgyrch i gydnabod yr hawl i dai fel hawl sylfaenol yng Nghymru.


Trwy gyhoeddi enwau prif gefnogwyr yr ymgyrch ar Ddiwrnod Hawliau Dynol (10 Rhagfyr) – yn cynnwys llofnodwyr o’r sector tai, cynrychiolwyr etholedig a chomisiynwyr, y byd academaidd, y sector elusennol a’r trydydd sector – mae ‘Cefnogi’r Bil’ yn dangos mor eang yw’r gefnogaeth ar draws Cymru i gyflwyno deddfwriaeth o’r fath. Yr wythnos ddiwethaf, dangosodd pôl a gynhaliwyd gan CIH Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd fod 77% o bobl yn cefnogi hawl gyfreithiol i dai. Mae gwefan wedi’i lansio hefyd sy’n galluogi pobl i lofnodi eu cefnogaeth i’r ymgyrch a chadw’n hysbys am ei ddatblygiadau diweddaraf.

Ymgyrch ar y cyd yw ‘Cefnogi’r Bil’ rhwng yr elusennau tai Tai Pawb, CIH Cymru a Shelter Cymru yn dilyn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ym Mehefin 2018 ar y cyd â Dr Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe. Mae’r astudiaeth yn cynnig map llwybr ar gyfer ymgorffori’r hawl i dai digonol yng nghyfraith Cymru a sut gallai hynny fynd i’r afael â rhai o’r prif faterion ym maes tai heddiw, yn cynnwys sicrwydd tenantiaeth, hygyrchedd, fforddiadwyedd a digartrefedd. Mae’r Bil Drafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cyflwyno sut gellid gwireddu deddfwriaeth o’r fath, yn pwysleisio ffocws ac adnoddau i’r maes tai ac yn sbarduno newid systemig yn y dulliau polisi a fyddai’n ailosod y deial ar y system dai yng Nghymru.


Mae’r alwad hon eisoes wedi cael cefnogaeth gan Blaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru; mae pob un o’r rhain wedi gwneud adduned i gyflwyno’r hawl yn eu maniffesto cyn etholiadau’r Senedd fis Mai nesaf. Yn Maniffesto’r Dyfodol, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud tai yn hawl ddynol.

Sophie Howe  |  Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Hawl gyfreithiol i dai yw un o’r rhoddion mwyaf y gallem ei roi i genedlaethau’r dyfodol. Mae cartrefi fforddiadwy, diogel, cysylltiedig, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yn helpu i gynnal lles pobl, a byddai hawl gyfreithiol i dai yn ein helpu i gyrraedd y nodau a osodwyd gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol unigryw, yn atal digartrefedd, yn lleihau’r gost o gynnal cartref, yn gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd ac yn caniatáu inni baratoi’n well ar gyfer edrych ar ôl pobl wrth iddynt fynd yn hŷn.

Matt Dicks, Alicja Zalesinska a Ruth Power  |  CIH Cymru, Tai Pawb a Shelter Cymru

Credwn y dylai fod gan bawb hawl ddynol, wedi’i gwreiddio yn y gyfraith, i gael gafael ar dai digonol a chynaliadwy – yr egwyddor sylfaenol hon sydd wrth graidd unrhyw ddatrysiad i’r argyfwng tai yng Nghymru. Rydym yn falch o weld yr ymgyrch yn mynd o nerth i nerth wrth gael cefnogaeth gan randdeiliaid ledled Cymru – a hynny o fewn a thu hwnt i’r sector tai. Mae’n destament i rôl hollbwysig tai ym mywydau pobl ac mae’n dangos fod chwant am newid polisi sylfaenol i ymwreiddio dull wedi’i seilio ar hawliau yn y gyfraith

Rhestr llofnodwyr 

 

Nodiadau ar gyfer golygyddion:

Mae Tai Pawb yn hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn y maes tai yng Nghymru, ac mae’n credu bod gan bawb yr hawl i gael mynediad at dai o ansawdd dda a chartrefi mewn cymunedau cydlynus a diogel. Ein nod yw ysbrydoli Cymru i fod yn le tecach i fyw ynddo.

CIH Cymru yw’r corff cynrychioladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes tai, sy’n gweithio yn bennaf mewn cymdeithasau tai, timau tai awdurdodau lleol ynghyd â nifer gynyddol yn y Sector Rhentu Preifat.

Shelter Cymru yw elusen pobl a chartrefi Cymru. Rydym yn gweithio dros bobl mewn angen am dai trwy gynnig cyngor annibynnol, arbenigol, am ddim ar dai ac rydym yn ymgyrchu i oresgyn y rhwystrau sy’n sefyll rhwng pobl yng Nghymru a chartref digonol, diogel.

Am wybodaeth bellach, ceisiadau am gyfweliad, cysylltwch â Ross Thomas 07734 651680 neu Matthew Dicks 07827805131.