06 Jun 2023

Mae CIH Cymru yn croesawu'r papur Gwyrdd ar renti teg a chartrefi digonol a gyhoeddwyd heddiw

Mae CIH Cymru yn croesawu'r papur Gwyrdd ar renti teg a chartrefi digonol a gyhoeddwyd heddiw.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyrdd ar sicrhau llwybr tuag at gartref digonol - gan gynnwys rhenti teg a fforddadwyedd. 

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw y dylai pawb yng Nghymru allu cael cartref diogel a fforddiadwy sy'n diwallu eu hanghenion ar gyfer y gwahanol gyfnodau yn eu bywydau, sef gweledigaeth a rennir gan CIH Cymru

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn nodi saith maen prawf y dylid eu bodloni er mwyn ystyried llety fel cartref digonol. Y rhain yw:

  • Sicrwydd daliadaeth
  • Argaeledd gwasanaethau, deunyddiau, cyfleusterau a seilwaith
  • Fforddadwyedd
  • Addasrwydd i fyw ynddo
  • Hygyrchedd
  • Lleoliad
  • Annigonolrwydd diwylliannol.

 

Rydym ni yn CIH Cymru yn llwyr gefnogi defnydd Llywodraeth Cymru o saith maen prawf y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cartref digonol. Yn wir, y meini prawf hyn sydd wedi ffurfio sail ein hymgyrch gyda'n partneriaid #Cefnogi'rMesur, Tai Pawb a Shelter Cymru, yw ymgorffori'r hawl i gartref digonol yng Nghyfraith Cymru'n llawn. Felly, ein safbwynt ni yw mai deddfwriaeth ddylai fod y mecanwaith yr ydym yn ei ddefnyddio i ymgorffori hynny yng nghyfraith Cymru, yn seiliedig ar y saith maen prawf hyn a nodwyd gan y Cenhedloedd Unedig.

Rydym hefyd yn croesawu'r cyfle i ymateb yn fanwl i'r materion a godwyd gan y Papur Gwyrdd ynghylch fforddadwyedd yn y sector rhentu preifat yma yng Nghymru a'r angen am wneud y sector rhentu preifat yn fwy teg ar gyfer landlordiaid a thenantiaid. Ac eto, byddem yn annog ymagwedd ochelgar gan i'n hymchwil yng Ngogledd Iwerddon amlinellu y gallai mesurau rheoli rhent arwain at ganlyniadau anfwriadol ar adeg pan fo pwysau llym eisoes ar y cyflenwad o gartrefi rhent preifat yng Nghymru, gan ei gwneud yn fwy anodd i ddygymod â'r niferoedd cynyddol o bobl sy'n mynd i lety dros dro neu'n cael eu hychwanegu at restrau aros tai.

Meddai Matt Dicks, cyfarwyddwr cenedlaethol CIH Cymru:

“Mae angen i ni gyflawni'r cydbwysedd iawn rhwng fforddadwyedd a sicrhau bod digon o gyflenwad ar gael i ymdopi â'r galw, ac mae'n ddigon posib y bydd angen ymyrryd ar ryw lefel yn y farchnad rhentu breifat yn y tymor byr i'r tymor canolig, a hynny'n gysylltiedig o bosib â gwella safonau. Ond mae'n rhaid i ni beidio â gwneud y camgymeriad o edrych ar un ddaliadaeth tai ar wahân. Mae'n ffaith mai un o brif symbylyddion yr argyfwng tai presennol yw'r tangyflenwad hanesyddol a systemig o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy dros ddegawdau, y gellir dadlau bod fforddadwyedd y Sector Rhentu Preifat yn symptom ohono. Ni ddylai unrhyw ymyriad ym marchnad rhentu'r SRhP wyro oddi wrth uchelgais allweddol Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd ar rent cymdeithasol yn nhymor y Senedd hon.

“Cred CIH Cymru y bydd deddfwriaeth i ymgorffori'r hawl i gartref digonol drwy ymagwedd a wireddir fesul cam yn gorfodi awdurdodau statudol i gyflwyno cynlluniau ynghylch sut y byddwn yn cyflwyno'r hawl dros gyfnod gwireddu graddol, a byddai'r cynlluniau hynny'n nodi trefniadau monitro a mesurau gorfodi, yn ogystal â'r buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni cwmpas y ddeddfwriaeth.

“Credwn y dylai deddfwriaeth i ymgorffori'r hawl yng nghyfraith Cymru fod yn fan cychwyn ar daith a fydd yn mynd i'r afael â materion eraill a godir yn y Papur Gwyrdd hwn o ran fforddadwyedd a darparu cartrefi digonol. I ni, mae'n amlwg mai nawr yw'r amser i weithredu a sicrhau newid cadarnhaol a hirhoedlog, trwy ddeddfwriaeth.”

Byddwn ni'n ymgynghori â'n 1,000 o aelodau yng Nghymru, yn ogystal â'r sector ehangach, i ymateb i'r Papur Gwyrdd.