17 Oct 2019

Methiant sectorau i gydweithio'n gyson yn rhoi baich ar gyllidebau, amser staff a llesiant pobl

Heddiw mae prosiect Tyfu Tai Cymru CIH Cymru'n lansio ei adroddiad 'Dod ag iechyd da adref' sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n creu partneriaeth dda rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol. Cyllidwyd y gwaith, sy'n ceisio rhannu dull seiliedig ar dystiolaeth o wella arfer rhwng gweithwyr proffesiynol a sectorau trwy Gyfnewidfa Wybodaeth Canolfan Gydweithio Tystiolaeth Tai y Deyrnas Unedig (CaCHE).

Archwiliodd yr ymchwil bymtheg o brosiectau gwahanol o bob cwr o Gymru, gan gynnwys y rhai sy'n gostwng oedi wrth ddychwelyd adref o'r ysbyty, isafu unigrwydd ac unigedd a llety arbenigol â chefnogaeth.

Mae'r adroddiad yn amlygu chwe egwyddor sydd yn aml yn sail i bartneriaethau llwyddiannus rhwng y tri sector:

  • Dadansoddiad a rennir o broblemau ac atebion
  • Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Arweinyddiaeth
  • Cyllidebau ar y cyd
  • Dehongliad a rennir o'r ddeddfwriaeth
  • Cydnabod anghydbwysedd pŵer

Mae'r adroddiad yn myfyrio hefyd ar weithgareddau sy'n ymwreiddio gweithio ar y cyd ymhellach. Roedd hyn yn cynnwys yr angen am sicrhau cyllid hir dymor cynaliadwy ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar dystiolaeth dda; sefydlu dulliau cynnal sesiynau hyfforddi ar y cyd a rhannu arfer da rhwng gweithwyr proffesiynol a rhannu adnoddau, oll wedi'i ategu gan strategaeth sy'n gweld yr holl batrymau'n rhannu diddordeb ar y cyd mewn gwella canlyniadau i bobl.

Catherine May  |  Rheolwr Tyfu Tai Cymru

Roeddem yn falch iawn i fedru cydweithio â CACHE i ddatod yr hyn sy'n gwneud rhai prosiectau rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn llwyddiannus. Trwy ymwreiddio'r chwe egwyddor, gall partneriaethau ddarparu cefnogaeth well a mwy effeithiol i bobl ar draws Cymru. Mae gennym ddeddfwriaeth gynyddol yng Nghymru sy'n sefydlu gweithio ar y cyd fel rhan ganolog o sut rydym yn cyflwyno gwasanaethau ac mae'r prosiectau y siaradom â hwy yn dangos sut y gellir gwneud hwn mewn ffordd y gall pawb yng Nghymru elwa ohoni.

Adroddiad llawn yma