24 Oct 2023

SATC 2023 – tirwedd gyllido nad yw'n gweddu i uchelgais yr amserlen

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi Safonau Ansawdd Tai Cymru terfynol yn dilyn cyfnod ymgynghori hir gyda'r sector tai a rhanddeiliaid perthnasol. Er i'r safonau arfaethedig gael eu derbyn yn gyffredinol, cododd y sector tai bryderon ynghylch yr amserlenni ar gyfer cyflawni targedau datgarboneiddio a sero net. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y pryderon hyn, gan arwain at set o safonau sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd i landlordiaid gyflawni targedau datgarboneiddio gan ddefnyddio ymagwedd gynlluniedig.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi eglurder ynglŷn â'r cyllid sydd ar gael i fodloni'r safonau newydd. Bydd £70 miliwn y flwyddyn ariannol hon a £70 miliwn arall yn 2024/25 ar gyfer y rhaglen ôl-osod wedi'i optimeiddio. Er i ni groesawu'r cyllid hwn a'r ymrwymiad parhaus i gyllido'r safonau newydd, mae'r arian hwn yn brin o gyfanswm y buddsoddiad sydd ei angen.

Yn ôl adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol “Cartrefi Addas ar gyfer y Dyfodol: Yr Her Ôl-osod" (a gyflawnwyd gan New Economics Foundation) mae bwlch ariannu o £2.7 biliwn yn y swm sydd ei angen i ôl-osod tai cymdeithasol a bwlch o £3.9 biliwn i ôl-osod cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae’n mynd ymlaen i ddweud mai cyfanswm y buddsoddiad sydd ei angen dros y deng mlynedd nesaf i ôl-osod y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru yw £5.52 biliwn (£4.82 biliwn i ôl-osod cartrefi mewn tlodi tanwydd) gyda thua £1.7 biliwn o hwnnw'n dod o Lywodraeth Cymru a £3.6 iliwbn o San Steffan.

Mae darparwyr Tai Cymdeithasol eisoes yn gorfod rheoli toriadau mewn termau real i'w cyllidebau o ganlyniad i bwysau chwyddiant parhaus. Er eu bod yn ymrwymedig i ddatgarboneiddio eu stoc a symud i sero net, bydd angen mwy o gyllid i gefnogi darparwyr tai cymdeithasol i gyrraedd y safonau SATC newydd.

Meddai Matt Dicks, cyfarwyddwr cenedlaethol CIH Cymru:

“Er bod y sector wedi'i ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, benthycwyr, a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ddulliau arloesol o ddenu’r buddsoddiad sydd ei angen i wireddu’r uchelgais hwn, bydd bodloni safonau SATC 2023 yn heriol i’r sector tai yng Nghymru. Er i ni groesawu nod Llywodraeth Cymru o adeiladu ar lwyddiannau'r SATC gwreiddiol, gan sicrhau y darperir cartrefi o ansawdd da, ni ellir gwneud hyn heb gyllid digonol.

“Mae'n rhaid cael sicrwydd hirdymor gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithgarwch cyllido i ddatgarboneiddio cartrefi presennol yn gyflym. Mae'n annhebygol y bydd modd i lefel y cyllid a amlinellwyd gyflawni'r nod hwn oherwydd y pwysau chwyddiant parhaus ar amgylchedd gweithredu ehangach sefydliadau tai. Os ydym am sicrhau y gall tai cymdeithasol yng Nghymru fodloni’r safonau uchel a amlinellir yn y SATC newydd, yna mae angen i ni sicrhau bod darparwyr tai cymdeithasol yn cael lefel ddigonol o sicrwydd ynghylch y cymorth ariannol sydd ei angen i gyflawni ein huchelgais a rennir.”